Ashianna

© Soined a Nia
Ashianna – Urdu,
- nyth aderyn
- cartref hardd yn llawn o, neu wedi ei greu o gariad a chyfeillgarwch.
Gwnaeth y bardd a’r argraffydd Francesca Kay arwain cyfres o weithdai gyda Grŵp Mind Ashianna Casnewydd. Mae’r grŵp ar gyfer merched o dras Asiaidd sydd eisiau dysgu sgiliau newydd a datblygu rhwydweithiau cefnogi newydd mewn amgylchfyd ddiwyllianol addas a diogel.
Defnyddiodd aleodau’r grwp luniau botanegol i greu collage, ac ysgrifennu negesuon a cherddi pwerus yn Saesneg ac Urdu am fod yn ferched. Aeth y grŵp ati wedyn, i addurno’r darn o waith celf ac yna ei fframio.
Wrth ddefnyddio peiriant argraffu o’r 1920’au a pheiriant gwneud bathodynau, aeth y marched ati i ddatblygu ‘r themau o bositifrwydd a bod yn ferch. Mae’r broses o argraffu yn defnyddio llythrennau a symbolau pren, a elwir yn moveavble type , sydd wedyn yn cael eu lliwio gyda inc. Pob tro y bydd rhain yn cael eu pwyso ar y papur , creiir marc unigryw sy’n golygu fod aelodau o’r grŵp wedi cael gwaith celf unigryw a nodweddiadol ac fe aeth rhai ohonyn nhw adref a’u defnyddio fel anrhegion neu eu arddangos yn eu cartrefi.Mi fydd gweddill y gwaith a grewyd yn cael ei ddefnyddio i addurno a harddu swyddfeydd newydd Mind yng Nghasnewydd.
Datblygwydd y prosiect hwn mewn partneriaeth a Mind yng Nghasnewydd a Chyngor Dinesig Casnewydd.