Nod y cynllun yw cael y gynulleidfa ehangaf sy’n bosibl i fwynhau a gwerthfawrogi llenyddiaeth.
Bydd prosiect yn cynnig amrywiaeth eang o ddigwyddiadau, o Weithdai Ysgrifennu Creadigol i Ddarlleniadau gan Awduron, Digwyddiadau Barddoniaeth, Nosweithiau Meic Agored, Cynadleddau a llawer rhagor.
Er mwyn apelio at bob oedran bydd y prosiectau’n cynnwys:
- Tecstio
- Blogio
- Creu cymeriadau Facebook
- Newyddiaduraeth
- Barddoniaeth
- Rhyddiaith
- Ysgrifennu caneuon
- Drama
- Ysgrifennu sgriptiau
- Creu nofelau graffig a rhagor
Bydd sesiynau’n cynnwys mathau newydd a thraddodiadol o gyfryngau a gallent fod yn digwydd mewn unrhyw leoliad yn y Cymoedd o fysiau a threnau i dafarndai a chanolfannau hamdden..