Projects

Welsh Writing Squad Day

On Saturday 12 July, 12 children from the Merthyr and Blaenau Gwent Welsh Writing Squads attended a fun filled day of creative writing at the Canolfan, Merthyr.

The new Bardd Plant Cymru, Ifor ap Glyn and celebrated poet,Grahame Davies supported the children in creating their own poems and stories.

These were compiled as a leaflet and ultimately included in a book produced by Merthyr Arts Development to celebrate the work produced by the gifted and talented writers of Merthyr.

Jamie Bevan, Outreach Officer for Menter Merthyr said ’It’s wonderful to be able to offer children and young people the opportunity to work with writers of such a high standard. Experiences like this are so important in nurturing an interest in the literary arts’

Grahame Davies said “It was a pleasure to work with the young people. I enjoyed the stories they told, and was impressed with the literary work they produced.   For me personally, the visit was also a chance to reconnect with the town where I lived for 10 years. The young writers are a credit to the area.”

Ifor ap Glyn said:
When rhyming’s hard as steel
they know how to use
the hammer of the Merthyr Muse

Cerddi Sgwad Sgwennu Merthyr
Workshops with Ifor ap Glyn
12.7.08

Roedd ei gynffon rhwng ei goesau
Pan aeth yr heddlu i mewn,
Roedd ganddo lygaid mawr
Fel darnau enfawr o lo
Roedd ei goesau fel darnau syth o bren.
Roedd ei ben mor fawr â tŷ
ond gwelodd yr Heddlu bod y s?n yn fuwch fach yn y sinc!

(Dafydd)

Tri pheth sydd yn fy ngwylltio
Gweld tîm Man U yn sgorio
Mynd i’r ysgol fel plant da
A cholli’r gala nofio.

(Sgwad sgwennu Merthyr)

Tri pheth sydd yn fy ngwylltio
Bod yn hwyr yn cael fy nghinio
Bob tro dwi’n methu agor jar
A gwely cynnar heno.

(Sgwad sgwennu Merthyr)

Tri pheth sydd yn fy llonni
Cael siopa gyda Abbie
Bwyta siocled drwy’r holl ddydd
A’r llaeth sydd yn fy nghoffi.

(Sgwad sgwennu Merthyr)

Tri pheth sydd yn fy llonni
Cael mynd i weld Llanelli
Mynd i Anfield, er mor bell,
Ond gwell yw gwylio Cymru.

(Sgwad sgwennu Merthyr)
Workshops with Grahame Davies

Fy Ngerdd

Rhyd y Grug yw fy ysgol
Ac rwyn dwli mynd ar dripiau

Yn y diwedd ffeindiodd hi mas
Fi oedd wedi ei dorri
A fel y pysgodyn bach prysur
Prynnodd hi un arall yn ei le

Tân enfawr a chas
Rhoddodd y dynion e mas
Sialens mawr am cawr
Adeilad y tân yn fawr.

(Poppy)

Fe es I ar drip
Gyda blwyddyn 5 i gyd
i Langrannog am yr wythnos
Wow! Am hwyl a sbri!

Fe gafon ni £30
i wario yr un yn y siop
ac yna ar y cownter Eisteddfod
Pethau china yn cynnwys pysgod.

Nawr mae fy ffrindiau gorau yn hoff iawn o tseina
Yn cynnwys fy ffrind Gwen
A prynodd hi y pysgodyn
A rhoi ef ar y top shelf.

Wrth gwrs roedd fy hylif haul
Ar yr un shelf
Ac es i i nôl e
Roedd rhaid ymestyn, o help.

So beth digwyddodd, oh, rhywbeth ofnadwy
Roedd y pysgod ar fin cwympo
So es i bigo e lan
Ond oedd y pysgodyn wedi smashio!

Yna cerddodd Gwen i mewn i’r ystafell
A gweld y pysgodyn wedi ei ffrio
Edrychodd hi arna i a dwedais
Nid fi oedd ar fai, ond Leah.
Woodi

Roedd gen i gi o’r enw Woodi
Un dydd ro’ fi’n gwisgo hoodi
A roedd Woodi yn rhedeg i ffwrdd

Ro’n i’n aros am fws yr afon
Yn bwyta hufen ia cone
Yn oh, neis iawn.

Woodi oedd fy nghi
Un dydd aeth e ar goll
Oriau yn mynd heibio a dal dim byd
Roedd fy nghalon yn stopio yn meddwl bod e wedi marw
Galwodd y ffôn
Woodi oedd e ac oedd fy nghalon yn mynd eto.

Roedd y gwynt yn chwyrnu
a roedd y nos yn dywyll
siglodd y teils ar ben fy
nhŷ. Ond gadawon ni’r
teils ac arosom ni tan
y bore, pan roedd yr haul yn
sgleinio.

Ond yna cwympodd
Un o’r teils. SMASH! Aeth
Gwydr bobman
Ond roedden ni yn saff.
Ro’n ni yn y tŷ.

Yn y bore gwelon ni
Fod y gwydr o’r car
Newydd fynd i bobman
A roedd fy radio a’r
Olwyn car wedi diflannu
Ond roedden ni’n saff yn y tŷ.

Amser pan deimlais fod rhywbeth goruwchnaturiol yn digwydd
Pan oeddwn yn 8 aethon ni i Ogledd Cymru fel trip bach yn y gwyliau. Mae fy mam yn hoffi gwneud hanes y teulu ac aethon ni i fynwent hen. Yn y
fynwent roedd llawer o feddau wedi torri a roedd y llawr i gyd yn moss ac yn mwshi. Roedd yr eglwys yn hen ac yn y pentref bach. Clywais riddfan o’r beddau a chath ddu yn cerdded o gwmpas y glaswellt hir. Roedd fy nhad wedi aros yn y car, arosodd fy mam i edrych ar enwau y beddau a rhedais i nôl i’r car. Mae’n beth da i wneud hanes teulu ond paid ag anghofio nhw ond angen fod marw.
Elis William Lewis

Un tro, es i i ffair yr ysgol ac roedd hwc a duck a’r prize oedd pysgodyn aur. Wedyn cefais i go ac ennillais i ddau bysgodyn a teimlais yn hapus iawn. Yr enwau oedd Lucky a Cian a marwodd Cian 4 diwrnod wedyn. Wedyn
marwodd Lucky mewn 2 wythnos. Roeddwn i’n teimlo’n drist ofnadwy. Doedd Cian ddim yn lwcus oherwydd marwodd e yn gyntaf a cyn Lucky. Ond roedd Lucky yn fwy lwcus na Cian.

Wrth wisgo fy ngwisg,
A rhedeg i’r fflat
Fe welais i ddwy ferch wrth y ffloat
A’r un wisg a fi!
Ond pan roedd pawb yna,
Roedd pawb yn yr un wisg.

Pan roedden ni wedi cyrraedd
Nôl, roedd fy nain wedi
Anghofio pa un oeddwn i!
Rydw i’n galw hi’n dwp ers hynny!

(Abbie Mack)
Fe edrychais i lan
A gweld neidr enfawr
O’r enw Megafobia,
Plant ac oedolion yn
Gweiddi a sgrechian,

Rhai o’r plant yn gwenu
Yn symud i’r chwith a’r dde,
Es i yn y cart a
Aethon ni mewn fflach
Lan a lawr i’r chwith ac i’r
Dde. Roedd e’n hwyl a sbri
Ond ar ben.
Megaforbia aroson ni
Am eiliad ond wedyn
I lawr a ni i lawr
Cefn y neidr a wedyn
Fe stopion ni
O’r diwedd doedd y
Neidr ddim di brathu fi

(Tirion Grace Davies)

Fy Nghuddfan

Roedd e’n fawr ac yn gynnes,
Yn olau ac yn lliwgar,
Yn lle dim ond i fi fy hun.

Lle i fi ymlacio
A gwneud beth bynnag dwi eisiau
Yn lle dim ond i fi fy hun.

Lle i neb arall
Lle dim ond i mi
Yn lle dim ond i fi fy hun.

(Iwan)
Barney

Enw fy mhysgodyn yw Barney
Nofio o gwmpas yn llosgi un neu ddau calori
Cysgu o fore tan y wawr yn y gwely mawr
Enw fy mhysgodyn yw Barney
Gwyn fel cymylau
Anghofio llawer o batrymau.
Sullivan Un Clust

Un dydd ym Mehefin 2007 es i i dŷ fy modryb. Cafodd bochdew hi 5 babi. Cefais i un gyda un clust! Galwais i fe’n Sullivan. Mae e’n fochdew dwarf. Mae e’n frown golau gyda streip du lawr ei gefn. Rwy’n meddwl roedd e’n gallu clywed. Pan dyfodd e dipyn aethon ni a fe i’r fet, doedd y fet ddim yn gallu gwneud dim! Ond dwedodd hi fod e yn iawn. Rhoddodd y fet antibiotics i ni i weld beth oedd wedi digwydd.

Cafodd fy chwaer un hefyd, Justin oedd ei enw. Mae Sullivan yn casau Justin.  Pob amser mae Sullivan yn gweld e bydd nhw’n ymladd. Bydd Justin yn gweiddi squeak mawr.

Doedd clust Sullivan ddim yn gwella o gwbl ac roedd en casau yr antibiotics. Mewn cwpl o ddiwrnodau tyfodd y glust tua chwarter cm ond cwympodd hwnna bant! Aethon ni a Sullivan a’r darn bach o glust nôl at y fet unwaith eto!

Dwedodd hi mewn llais cyffrous “Rydw i’n gallu rhoi y glust nôl ar Sullivan os chi eisiau!” Dwedon ni “Ie!”

Mewn tua 2 awr aethom ni adref a doedd Sullivan ddim yn edrych fel Sullivan nawr. Mewn 5 mis roedd clust Sullivan wedi tyfu’n iawn! Am y tro olaf aethon ni nôl i’r fet, aeth y fet a Sullivan i ystafell, mewn amser agorodd y drws, roedd y darn fach o glust wedi diflanu! Aethon ni adref gyda gwên ar ein wynebau. Dydy Sullivan ddim yn Sullivan Un Clust nawr, mae e’n Sullivan dwy glust mawr! Gobeithio mae’n diolchgar!

(Elen Evans).