Prosiectau

Straeon o’r syrcas

spinning plates 2 small

Defnyddiodd Mike Church sgiliau a straeon i ymgysylltu â disgyblion Canolfan Addysg, Glan y Nant, a dysgu sgiliau byw allweddol a ffurfiau newydd o fod yn greadigol.

Daeth y syrcas i’r ystafell ddosbarth gyda phlatiau’n troelli ar draws Cysawd yr Haul, fflipio devil stick cydamseredig, siglo ar fwrdd cydbwyso a twyrlïo Diablo gyda Lionel y Llew. Roedd y rhain yn gymorth i ddatblygu sgiliau canolbwyntio ac roedd y dosbarthiadau yn cefnogi ac annog ei gilydd wrth ddysgu pethau newydd.

Wrth chwarae rôl, archwiliodd y dosbarthiadau straeon clasurol o safbwyntiau newydd er mwyn edrych ar ddewisiadau a chanlyniadau. Croesholwyd a dedfrydwyd Elen Benfelen a’r bachgen wthiodd Humpty Dumpty oddi ar y wal.

Cliciwch isod i weld Record y Byd am Fflipio Devil Sticks Cydamseredig a Troelli Phlatiau ar draws Cysawd yr Haul.