Prosiectau

Make Some Noise

     

Fel rhan o fenter Bardd Llawryfog Pobl Ifainc, lansiodd Llenyddiaeth Cymru brosiect perfformio Cymru-gyfan arall, y tro hwn yn benodol ar gyfer ein gofalwyr ifainc. Cafodd wyth awdurdod lleol a dros 100 o bobl ifainc y cyfle i gymryd rhan yn Make Some Noise, sydd wedi annog a galluogi i bobl ifainc i gael eu lleisiau wedi’u clywed mewn ffyrdd unigryw a chreadigol.

Archwiliodd cyfres o weithdai, a arweiniwyd gan dîm o awduron a pherfformwyr, y thema Hunaniaeth trwy nifer o gyfryngau gwahanol, o arwain i hunangofiant a’r gair llafar i adrodd straeon. Canolbwyntiodd y prosiect ar faterion a diddordebau pobl ifainc sy’n ymgymryd â rôl ofalu. Cafodd y grwpiau’r cyfle i wneud recordiad o’u darnau gyda cherddorion proffesiynol, ac mae cyfraniad pob grŵp wedi cael ei arddangos mewn nifer o ddigwyddiadau ar draws Cymru, ac ar-lein, yn ystod Gwanwyn 2013.

Mae grwpiau Gofalwyr Ifainc yn Sir y Fflint, Powys, Sir Benfro, Sir Fynwy, Casnewydd, Torfaen, Caerffili a Phenybont-ar-Ogwr yn gweithio gydag awdur i greu darnau perfformio ar y thema ‘Hunaniaeth’. Aelodau’r tîm awduron, a fydd yn ymroi i annog hyder a chreadigrwydd trwy gydol eu hamser gyda’r gofalwyr ifainc, fydd Sophie McKeand, Tyler Keevil, Matthew Plumb, Patrick Jones, Mike Church, Rufus Mufasa (Ruth Evans), Mark Blayney ac Anita Flowers.

Cefnogir Make Some Noise gan grant oddi wrth Ymddiriedolaeth Elusennol Stadiwm y Mileniwm.

Mae pedwar prosiect wedi digwydd o fewn ardal Menter Datblygu De Cymru ac wedi’u cefnogi gan y swyddog datblygu, gan gynnwys: Penybont-ar-Ogwr gyda Mike Church, Cwmfelinfach, Caerffili gyda Rufus Mufasa, Thornhill, Torfaen gyda Patrick Jones a Chasnewydd gyda Mark Blayney.

Gweithiodd Patrick Jones gyda gofalwyr ifainc yn Nhorfaen yn ystod hanner tymor Chwefror. Gwnaethant gynhyrchu cerdd wefreiddiol a phwerus, protest, a maniffesto i Gymru a’r byd.

Ymysg sylwadau Patrick Jones am y prosiect roedd:

‘Am grŵp o ysgrifennwyr ifainc. O’r cychwyn cyntaf roeddem yn trafod materion digon swmpus ac fe gymrodd pob aelod o’r grŵp ran gan roi sylwadau ystyrlon ac aeddfed a syniadau ar faterion megis bwlio, gofal amgylcheddol, gwleidyddiaeth, bod yn chi eich hunan ac addysg.

‘Darllenais rai cerddi er mwyn eu hysgogi nhw i feddwl am hanfod cerdd, ac yna rhai gweithgareddau cychwynnol i ryddhau’r beirdd o’r tu mewn iddynt. Roedd y rhain yn cynnwys ‘I need you’ gan John Hegley – a ysgogodd y grŵp i fynd i’r afael ag odl a darluniau barddonol o ofal a chyfeillgarwch – yna cherdd gan garcharor Palesteinaidd o’r enw ‘I Shall’. Trafodom beth fyddai’r grŵp yn ei wneud petaent yn rheoli’r byd: pa bethau y byddent yn eu newid a beth fyddent yn adeiladu. ‘We Shall’ oedd yr enw a roddom ar y datganiad hwn a gweithiom arno fel grŵp, gyda phawb yn ychwanegu llinellau ac yn golygu adrannau. Dechreuodd ffurfio mewn modd ddemocrataidd iawn, a daethom i ben gan rannu’r gwaith oedd ar y gweill; rwy’n credu bod y grŵp wedi blino’n lân ar ôl yr holl ymdrech feddyliol!

‘Ar ddechrau’r ail sesiwn gwnaethom ail-edrych ar y gerdd ‘We Shall’, a phenderfynodd pawb mai hwn fyddai’n cael ei ddatblygu i fod yn drac cerddorol. Yna fe weithiom ar rai gweithgareddau perfformio i annog y grŵp i ddarllen yn uchel mewn ffyrdd gwahanol a golygodd hyn eu bod yn dechrau dod i deimlo perchnogaeth dros y gerdd, ei theimlo a’i hadrodd fel ei bod yn cyfleu eu llais mewnol. Yna dechreuodd y grŵp ei bloeddio gydag awch ac ysbrydoliad; eiliad gwir hudolus. Ar un adeg roedd darllenwyr ar ben y cypyrddau (rhybudd iechyd a diogelwch!!!!) yn gweiddi’r geiriau – ardderchog! Gweithiom ar ychydig o weithgareddau ysgrifennu i chwarae gyda lleisiau bardd mewnol y grŵp ac yna cafwyd darlleniad olaf o ‘We Shall’ i gloi – gwnaeth hyn fy syfrdanu. Ar gyfer y sesiwn olaf, daeth y cerddor i droi’r andros o gerdd i mewn i andros o gân ac felly darllennom y gerdd gyda phob aelod yn cymryd 4 llinell a gwir berchnogi’r geiriau a theimlad y gerdd. Gweithiodd y cerddor ar synau a syniadau cerddorol wrth i’r grŵp ddarllen eu hadrannau dewisedig yn eu tro – roedd hyn yn llwyddiannus iawn ac yn ddarn perfformio ardderchog.

‘Y cyfan mewn prosiect tri niwrnod ardderchog lle ysgrifennodd yr aelodau i gyd eiriau ystyrlon gwych yn seiliedig ar eu realiti personol, eu meddyliau eu hunain a’u lleisiau eu hunain – ewch ati, chwi feirdd y genhedlaeth nesaf!

WE SHALL

We shall prevent war terrorism and harm

Use justice to keep calm

We shall take care of the poor and the ill using medicines and lots of skills

We shall put a stop to the bad things on the earth poaching poverty pollution create a curse

We shall stop the rattling rampage of riots

the demanding desperation of diets

We shall shape the next generation

By not dividing a nation

by not submitting to temptation

as are travelling to our shining destination

We shall

paint pride

stop the abuse of children

we all need to survive

do what we can to stay alive

do what we can to thrive

gan Grŵp Gofalwyr Ifainc Torfaen, Chwefror 2013

Gweithiodd gofalwyr ifainc Casnewydd gyda’r bardd perfformio Mark Blayney, a ddywedodd:

“Datblygodd y grŵp nifer o syniadau sy’n medru cael eu huno i fod yn ddarn gorffenedig, a’r prif allbwn yw, bod pobl yn dewis eu hunaniaeth o’r gerddoriaeth y meant yn eu hoffi. Mae pobl yn medru ymddwyn mewn ffordd benodol yn seiliedig ar y gerddoriaeth y meant yn ei hoffi ac yn ei gasáu, ac maent yn medru gwrthwynebu pobl eraill ar sail y chwaeth hwnnw’n unig.

“Roedd y grŵp eisiau dweud ymadroddion megis ‘stereoteipio’; ‘sut y mae pobl yn eich beirniadu’; ‘sut y mae chavs yn tueddu i fwlio pobl oherwydd eu bod nhw’n dwp’; ‘mae ganddyn nhw ryfel’; ‘mae moshers yn medru bod yn fwlis hefyd’ a ‘sut mae pobl yn eich beirniadu wrth edrych arnoch chi yn unig’.

Mae stereoteipio cymdeithasol yn fater allweddol ar gyfer pobl ifainc wrth iddynt archwilio pwy ydyn nhw mewn cymhariaeth â phwy, a beth, sydd o’u cwmpas. Mae’r grŵp yn bwriadu creu deialog byr, neu ddrama sy’n mynegi’r gwrthdaro rhwng grwpiau cymdeithasol gwahanol.

Gofalwyr Ifainc yng Nghaerffili:

Gweithiodd Rufus Mufasa gyda grŵp mwy o faint o ryw ugain gofalwr ifanc. Ymunodd aelodau newydd â’r sesiwn ac fe wnaethant ymgymryd â’r dasg o dan sylw’n fuan.

Dywedodd Rufus:

“Roedd y grŵp wedi cyffroi ac yn cofio’r hyn a ddysgom ni yn y sesiwn olaf, felly llifodd yr ail sesiwn o’r cyntaf yn ddiymdrech. Llifodd yr ail sesiwn cyfan: sefydlwyd tasgau newydd i ddilyn y tasgau eraill, a olygodd bod y broses fel taith i’r aelodau.

“Roedd neilltuo adrannau rap ar wahân er mwyn i aelodau arbrofi â nhw wedi sicrhau eu bod nhw’n gweithio gyda’i gilydd ac roeddwn yn byrlymu wrth weld eu hyder yn tyfu. Dechreuon nhw ddefnyddio cwpanau i greu curiadau ar ddesgiau, clapio, a stampio i wella’r perfformiad. Gwnaeth un aelod ganu’r piano… Dechreuodd ymdebygu i sioe Jools Holland, neu fel y ffilm Sister Act lle mae hi’n dysgu plant yn eu harddegau mewn dosbarth cerdd. Hyfryd. Roeddwn i a’r grŵp yn llawn cyffro, ac er iddynt weithio ar adrannau, roedden nhw’n dal i weithio fel tîm ar gyfer cyfanwaith/perfformaid.”

Yn y sesiwn olaf, cefais fy synnu gan flaengaredd eu cyfraniad, roedden nhw wir wedi deall yr hyn yr oeddem ni’n ei wneud ac roedden nhw’n meddwl mewn modd hynod o greadigol.

Roedd y sesiwn yn symud yn gyflym ac roeddwn wir wedi ymgolli. Gwnes i arwain a chynnal y grŵp er mwyn inni’i gwblhau mewn pryd a’i gael wedi’i recordio. Roedd yn swnio’n wych ac fe flodeuodd lefelau egni a hyder yr unigolion. Wnes i ddim sylwi bod cymaint o luniau ohonom ‘ar waith’ wedi cael eu tynnu, ac roedd yn hyfryd i weld ac edmygu’r hyn yr oeddem ni i gyd yn ei greu. Roedd y lluniau’n llawn chwerthin a gwenau, ac roedd hyn yn hyfryd i weld, a chanlyniad gorau’r gweithdy oedd bod pawb wedi mwynhau.

Gofynnodd un aelod o’r grŵp, a oedd yn boenus o swil ar ddechrau’r prosiect, os allen ni ddefnyddio darn o gân yr oedd hi wedi ei ysgrifennu. Roedd gan y ddwy ohonom feicroffôn ond fe wnes i gerdded i ffwrdd yn araf pan oeddwn yn meddwl ei bod hi’n ddiogel ac yn ddigon dewr i wneud ar ben ei hun. Mewn tri sesiwn roedd yr aelod wedi’i thrawsnewid. Roedd yn hyfryd.

Yn wir, hwn oedd un o’r prosiectau mwyaf anhygoel ac ysbrydoledig yr wyf wedi cael y pleser o fod ynghlwm ag ef. Gwnes i ymroi bob wythnos, ond ymrôdd y grŵp yn fwy. Dysgais gymaint am fy hunan a’m galluoedd fel hwyluswr nes fy mod yn dymuno gwneud y gwaith hyn bob dydd. Diolch yn fawr ichi am y cyfle anhygoel hwn.

Gofalwyr Ifainc Penybont-ar-Ogwr

Mynegodd Mike Church:

Roedd yn ddymunol i nodi bod yr arweinydd grŵp wedi adrodd bod y plant wedi bod yn siarad mewn modd gadarnhaol iawn am eu hamser gyda’r prosiect. Dywedodd wrthym ni bod rhai o aelodau’r grŵp wedi cyfrannu mwy yn ystod tair wythnos y prosiect nac yr oedd hi erioed wedi’u gweld nhw’n cyfrannu o’r blaen…

Roedd nifer dda o grŵp Penybont-ar-Ogwr yn bresennol yn yr arddangosfa derfynol ac eto dywedodd arweinydd y grŵp eu bod nhw wedi cyffroi am y digwyddiad…Siaradais gyda phob un ar noson y digwyddiad ac fe wnes i wir fwynhau clywed eu darn gorffenedig pan gafodd ei chwarae ac roeddwn yn teimlo’n falch iawn o’r hyn yr oedden nhw wedi’i gyflawni…roedd pob un ohonyn nhw eisiau cael copi o’r perfformiad.

Credaf fod y prosiect wedi bod yn fuddiol iawn i’r Gofalwyr Ifainc ac roedd, i mi, yn brofiad a wnaeth imi deimlo’n hynod wylaidd, i glywed am y galwadau a wneir ar eu hamser a’r ymrwymiad y maent yn eu roi i’w teuluoedd.