Prosiectau

Pwll Bryniau Beaufort yn Ysbrydoli

pond

Ddydd Llun, 5 Gorffennaf 2010, closiodd plant o Ysgol Gyfun Brynmawr, Blaenau Gwent, at y bywyd gwyllt ar garreg eu drws.

Ymunodd y disgyblion 12-13 oed â swyddogion cefn gwlad o Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i chwilio am ryfeddodau byd natur yng Ngwarchodfa Natur Leol Pwll a Choetir Beaufort Hills.

Mae’r warchodfa brysur hon ar gwr Cwm Clydach, rhwng Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog i’r gogledd a threfi Brynmawr a Beaufort i’r de, ac mae’n hafan i fywyd gwyllt gan gynnwys rhai rhywogaethau prin.

Yn ôl yn yr ystafell ddosbarth, cofnododd y disgyblion eu profiadau drwy gyfansoddi cerddi yng nghwmni’r bardd a’r ddarlledwraig Caryl Parry Jones. A phan ddaw’r Eisteddfod Genedlaethol i Lynebwy, byddant ymhlith y perfformwyr cyntaf – yn darllen eu cerddi yn y Babell Lên.

Yn ôl Chris Engels, Swyddog Cefn Gwlad Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent: “Yng Ngwarchodfeydd Natur Lleol yr ardal hon cewch deimlad o wir lonyddwch, o gael eich amgylchynu a’ch trochi ym myd natur – sydd mor bwysig i’n hiechyd a’n lles yn y byd prysur sydd ohoni.

“Gwelodd y plant bethau rhyfeddol – gweision y neidr a gloÿnnod byw yn hedfan, brogaod a madfallod dŵr, a thrydar yr adar yn gyfeiliant i bopeth. Cawsant wir foddhad o drochi eu dwylo mewn pwll a oedd yn llawn o bob math o greaduriaid dirgel.”

“Gobeithiwn i’r daith ysbrydoli’r plant gan roi profiad uniongyrchol iddynt o’r amgylchedd arbennig sydd ar garreg eu drws.”

Meddai Caryl Parry Jones: “Rwyf wedi bod yn ymweld ag ysgolion ers blynyddoedd i siarad am farddoniaeth ac ysgrifennu barddoniaeth gyda phlant. Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at yr wythnosau nesaf, at helpu’r plant i ddehongli eu meddyliau a’u teimladau ynglŷn â’u hamgylchedd lleol drwy gyfrwng barddoniaeth. Mae’n ffordd wych o feithrin hyder plant.”

Pan fydd y plant yn darllen eu gwaith yn uchel yn yr Eisteddfod ddechrau mis Awst, mae CCGC yn gobeithio y bydd Eisteddfodwyr hefyd yn cael eu hysbrydoli i ymweld â Phwll a Choetir Beaufort Hills ac â safleoedd natur gwych eraill sydd dafliad carreg yn unig o faes yr Eisteddfod.

Bu disgyblion yn Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn-mawr hefyd yn cymryd rhan yn y fenter hon, a byddant hwythau’n adrodd eu gwaith yn yr Eisteddfod.

brynmawr

Diwydiant a Natur

I ystafell ddi-ddiwedd cefn gwlad

Daeth ymyrrwr.

I ddiogelwch ei dirlun

Llithrodd lleidr

A dwyn ei dir.

Ceffylau urddasol yn rhedeg yn rhydd

Gwartheg diog yn pori ar y porfa ffrwythlon.

Wyn cymylog yn prancio drwy’r Gwanwyn gwyrdd.

Adar prysur yn siarad yn swynol

Trigolion yn llyn llonydd yn crychu’r dwr a’u dawns.

Anghenfil di-symud

Caled, crac

Yn difa’r dedwyddwch,

Barus, swnllyd

Yn bwyta o fwrdd natur

Brawychus, di-drugaredd

Yn rhwygo calon y cwm.

Trwy gymylau’r mwg

Daw llafnau euraid sanctaidd

O bryder yr heulwen.

Un golau a nature yw’r seren,

Plydrau yn bownsio ar ddrych y llyn,

Yn denu’n ol

Y blodau pert,

Can yr adar,

Prydferthwch y dyffryn

A daw’r heddwch i aros.

Gan

Bethan Jenkins, Charlie Davies, Justin Davies, Connor Phillips, Jessica Howells a Kristie Jones ( Blwyddyn 8 )

Bywyd y Dderwen

Ar y mynydd

Uwchlaw y dyffryn tawel

Eisteddai mesen ddi-niwed.

Yn tyfu’n osgeiddig yn y porfa

Yn araf saethu tua’r haul.

Mae’n gwthio trwy’r pridd styfnig

Yn blaguro’n ddi-ffws

Mewn byd mawr, mawr

Yn hawlio ei thir,

Ei chartref am byth.

Mae amser yn diflannu

Y cwm yn mynd a dod,

Ac mae’r hen fenyw yn ymestyn ei breichiau

I anadl y gwynt

Ac yn cofio ddoe…

Clecian esgidiau’r glowyr,

Cymunedau clos,

Cri yr hwter a shifft arall ar ben,

Hen ganeuon yn rolio drwy’r strydoedd

A’r caledi di-faddau

Dagrau’r glaw ar ei dail,

Blynyddoedd o boen yn ei rhisgl garw.

Llinellau amser is boncyff

Yn rhychau ar ei hwyneb hen.

Ar y mynydd

Uwchlaw y dyffryn tawel

Eisteddai derwen drist.

Gan

Tom Davies, Lauren Knapper, Lauren Davies, Sian Hill, Tia Roberts, Callum Kershaw a Daniel Turner ( Blwyddyn 8)

Y Llyn

Rwy’n gweld ei wyneb o hedd

Yn disgleirio fel diamwntiau yn haul yr haf.

Ond o dan ei wyneb tawel

Mae fel ffair.

Pysgod bach yn chwyrlio wrth chwarae

Chwilen dwr yn gyffrwys a chwim

Berdysen yn chwilfriwio yn yr hesg hir.

Hwyaden yn suddo, yn edrych am guddfan madfall twp.

Uwch y terfysg a’r prysuro

Clywir hwyangerdd hudolus bronfraith

Yn swynol yn llonyddi’r gwrandawyr,

Tra fod glesni gwas y neidr yn fflachio yn y chwyn.

Cerrig esmwyth yn plymio i’r pellter,

Coed urddasol yn gwarchod y dyfnder,

Yn siglo’n osgeiddig yn yr awel dawel.

A’r mynyddoedd yn sefyll yn gadarn,

Yn dalpiau duon, di-symud.

Ac o dymor i dymor mae’r bywydau bach bishi

Yn mynd yn eu blaenau

Yn nhragwyddoldeb y dwr.

Gan

Kristie Watkins, Megan John, Chloe Williams, Cariad Williams,

Ellie Dickinson a Leah Elston. (Blwyddyn 8)

Opera’r Adar

Yn rhad ac am ddim,

Cymeraf fy sedd am y sioe orau yn y byd.

Cantorion campus

A’u halawon godidog

Mewn harmoni hyfryd.

Aderyn y to yn swyno a’i soprano

A natur yw ei gyfeiliant.

Ffliwtiau’r canghennau yn anfon eu halaw

A thelyn y gwair yn glissando gwych.

Hwyaden dew yn cracio’i nodyn bas

A’r gigfran yn crawcian ei halto hallt,

Tiwn nefolaidd y pinc yn ddescant pur

Ond daw cri iar fach y dwr i rybuddio.

I ganol y llwyfan daw’r dihiryn,

Tawelwch iasoer yn disgyn yw dywyll.

Mae’r hofran yn slei,

A’i anel yn laser o gywir,

Oddi tano, ysglyfaeth di-ymwybod,

Mae’r glicied yn tanio,

Bwled yn bolltio,

Llofrudd bodlon.

A llwyfan llonydd.

Diwedd act un.

Y cymeriadau cerddorol yn ochneidio rhyddhad

Yn barod i ddychwelyd

A pharhau’r stori

I’n pleser ni.

Gan

Laurie Carey, Billie James, Alanna Murphy, Ffion Evans,

Amy Prettyjohns a Courtney Davies

Caryl

.