Caiff gweithgarwch llenyddol yn Nedd Port Talbot ei gefnogi gan lyfrgelloedd Nedd Port Talbot a Datblygu Celfyddydau.
Mae gan lyfrgelloedd Nedd Port Talbot raglen ddigwyddiadau bywiog ac maent wedi croesawu amrywiaeth o awduron yn cynnwys Catrin Collier, Phil Rickman, Jasper Fforde, Martin Bell a Carole Matthews. Mae’r digwyddiadau hyn yn darparu cyfle i gynulleidfaoedd gwrdd â’u hoff awduron a dysgu mwy am yrfaoedd a bywydau’r gwestai arbennig.
Mae gan lyfrgelloedd Nedd Port Talbot raglen fywiog iawn o ddigwyddiadau i ysgolion, ac maent wedi cynnal digwyddiadau hyfforddi athrawon mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru yn ogystal ag yn annibynnol. Mae ysgolion wedi mwynhau amrywiaeth o ymweliadau gan awduron yn cynnwys gweithdai gan Luke Wright, Thomas Docherty, Phil Carradice, Mike Church, Michael Harvey, Phil Bowen a llawer mwy.
Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael, cysyllter â Paul Doyle:
p.a.doyle@neath-porttalbot.gov.uk.
Mae Datblygu Celfyddydau Nedd Port Talbot yn credu bod y celfyddydau ar gyfer pawb, ac y gall newid bywydau. Y bobl eu hunain sydd wrth graidd pob prosiect, ac maent yn anelu at ddatblygu sgiliau a thalentau’r gymuned leol.
Mae tîm Datblygu Celfyddydau Nedd Port Talbot wedi sicrhau nawdd o Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd drwy Gyngor Celfyddydau Cymru, fel rhan o Brosiect Reaching the Heights, prosiect ffilm gelfyddydol aml-gyfrwng.
Mae Datblygu Cymuned a Phrosiectau wedi cefnogi’r prosiect ac wedi ymwneud a dros 30 o bobl ifainc yn Nedd Port Talbot. Mae gweithdai wedi cael eu cynnal yng Nghanolfannau Cymunedol Nhraethmelyn, Taibach a Bryn, lle mae pobl ifainc yn mynychu clybiau ieuenctid. Mae’r prosiect wedi gweithio mewn partneriaeth â Llenyddiaeth Cymru i ddarparu sesiynau Barddoniaeth Syrcas a phrofiadau barddoniaeth ar drenau Arriva..